Gallwch arbed hyd at 50% oddi ar deithiau rhwng Caerdydd a Manceinion

Angen ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith nesaf? Gyda threnau uniongyrchol yn rhedeg bob awr rhwng Caerdydd Canolog a Manceinion, gallwch arbed arian ar docynnau trên Advance rhwng y ddwy ddinas fywiog hyn, gan fwynhau sawl man cyffrous ar hyd y daith.

Pethau i’w gwneud ym Manceinion

Y ddinas berffaith am benwythnos i ffwrdd ar drên. Mae Manceinion 
yn llawn hanes, diwylliant, amrywiaeth ac egni gwefreiddiol. O’i sin 
gerddorol gampus a’r timau pêl-droed eiconig i’w siopau syfrdanol 
a’i bwytai bendigedig, mae gan Fanceinion rywbeth at ddant pawb.

Gallwch deithio o Abertawe i Fanceinion o £39.40 â thocyn trên 
Advance.

 

Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd

Camwch oddi ar y trên yng Nghaerdydd Canolog ac ymgolli 
yng nghanol prifddinas fywiog Cymru. Boed yn crwydro 
drwy’r arcedau arbennig llawn siopau annibynnol, yn edrych 
drwy hanes yn y castell campus neu’n cael eich hudo gan gêm 
chwaraeon yn Stadiwm Principality, mae gan Gaerdydd egni sy’n 
anodd ei anwybyddu.

Gallwch deithio o Gaerfyrddin i Gaerdydd o £9.00 â thocyn 
trên Advance.

Y Fenni - Amwythig

Manceinion - Caerdydd

Pethau i’w gwneud yn Yr Amwythig

Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau 
ffrâm bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am ddiwrnod 
allan neu am benwythnos i ffwrdd. Mae’r Amwythig yn llawn 
marchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd bendigedig. 
Ewch i gerdded drwy Barc y Chwarel neu fwynhau llif yr afon ar 
gwch.

Gallwch deithio o Gaerdydd i’r Amwythig o £21.30 â 
thocyn trên Advance. Mae tocyn Dosbarth Cyntaf ar gael ar 
wasanaethau penodol hefyd.

 

Pethau i’w gwneud yn Y Fenni

Mae’r Fenni yn gyrchfan gwych er mwyn archwilio Bannau 
Brycheiniog. Mae ei thirweddau prydferth a’i threftadaeth 
hanesyddol gyfoethog o hyd yn syfrdanu ymwelwyr. Mae 
llwyth o lefydd bwyd ar gael sy’n llawn danteithion lleol, tra bod 
y golygfeydd godidog yn sicrhau profiad bythgofiadwy i bob 
teithiwr.

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.

Manceinion - Caerdydd

Pethau i’w gwneud ym Manceinion

Y ddinas berffaith am benwythnos i ffwrdd ar drên. Mae Manceinion yn llawn hanes, diwylliant, amrywiaeth ac egni gwefreiddiol. O’i sin gerddorol gampus a’r timau pêl-droed eiconig i’w siopau syfrdanol a’i bwytai bendigedig, mae gan Fanceinion rywbeth at ddant pawb.

Gallwch deithio o Abertawe i Fanceinion o £39.40 â thocyn trên Advance.

 

Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd

Camwch oddi ar y trên yng Nghaerdydd Canolog ac ymgolli yng nghanol prifddinas fywiog Cymru. Boed yn crwydro drwy’r arcedau arbennig llawn siopau annibynnol, yn edrych drwy hanes yn y castell campus neu’n cael eich hudo gan gêm chwaraeon yn Stadiwm Principality, mae gan Gaerdydd egni sy’n anodd ei anwybyddu. 

Gallwch deithio o Gaerfyrddin i Gaerdydd o £9.00 â thocyn trên Advance.

Y Fenni - Amwythig

Pethau i’w gwneud yn Yr Amwythig

Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau ffrâm bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am ddiwrnod allan neu am benwythnos i ffwrdd. Mae’r Amwythig yn llawn marchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd bendigedig. Ewch i gerdded drwy Barc y Chwarel neu fwynhau llif yr afon ar gwch.

Gallwch deithio o Gaerdydd i’r Amwythig o £21.30 â thocyn trên Advance. Mae tocyn Dosbarth Cyntaf ar gael ar wasanaethau penodol hefyd.

 

Pethau i’w gwneud yn Y Fenni 

Mae’r Fenni yn gyrchfan gwych er mwyn archwilio Bannau Brycheiniog. Mae ei thirweddau prydferth a’i threftadaeth hanesyddol gyfoethog o hyd yn syfrdanu ymwelwyr. Mae llwyth o lefydd bwyd ar gael sy’n llawn danteithion lleol, tra bod y golygfeydd godidog yn sicrhau profiad bythgofiadwy i bob teithiwr.

 

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.

 

Ewch ar y trên yng ngorsaf Caerdydd Canolog a thair awr a hanner yn ddiweddarach byddwch wedi cyrraedd gorsaf Manceinion Piccadilly, yn barod i brofi'r ddinas anhygoel hon, gan deimlo'n braf a hamddenol.

Gyda threnau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly yn rhedeg bob awr rhwng 04.23 a 20.17, gallwch chi deithio unrhyw bryd. P’un ai ar gyfer busnes neu bleser rydych chi’n teithio, byddwch chi’n teithio’n gyfforddus, gyda digon o le i ymestyn eich coesau. Mwynhewch baned o goffi ffres, ymlaciwch gyda llyfr da neu ryfeddu wrth i 144 milltir o dirwedd ogoneddus wibio heibio.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Faint o amser mae’r trên o Gaerdydd i Fanceinion yn ei gymryd?

Mae trenau uniongyrchol o orsaf Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly yn cymryd tua 3 awr 45 munud, gan deithio ychydig dros 140 milltir ar gyflymder.

 

Pam teithio o Gaerdydd i Fanceinion?

Mae Manceinion yn cael ei hadnabod fel ail ddinas Lloegr, ac roedd yn bwerdy diwydiannol ar un adeg. Mae bellach yn ganolfan ar gyfer diwydiant a therapi siopa, gyda rhai o fwytai gorau’r DU.

Mae un o ganolfannau siopa mwyaf y DU, y Trafford Centre, yn baradwys i siopwyr, ac mae’n cynnwys siopau fel Mango, Zara a John Lewis. Mae yno hefyd ddigon o siopau bwtîc annibynnol gydag eitemau at ddant pawb.

I gefnogwyr chwaraeon, mae stadiwm pêl-droed byd-enwog Old Trafford, cartref tîm pêl-droed Manchester United. Mae teithiau rheolaidd yn mynd â chi o gwmpas casgliad helaeth y Clwb o dlysau, ac mae'r amgueddfa'n hanfodol i ddilynwyr y gêm.

Gyda bron i 5 miliwn o arddangosfeydd, mae Amgueddfa Manceinion yn sefydliad llawn cystal â'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Mae acwariwm hudolus Sea Life yn rhywbeth y mae’n rhaid i bob aelod o’r teulu ei weld. Mae HOME yn gartref i bum sinema, ynghyd â theatrau ac orielau celf, a digwyddiadau a sioeau yma drwy gydol y flwyddyn. Mae gan y ganolfan hefyd nifer o fwytai a chaffis os ydych chi’n teimlo’n llwglyd cyn, neu ar ôl sioe.

Mae gan Fanceinion rywbeth i bawb. Mae’r ddinas gosmopolitaidd hon yn cynnig cyffro bob tro y byddwch chi’n ymweld.

Mae gennym ni amrywiaeth o docynnau ar gael o Gaerdydd i Fanceinion, wedi eu cynllunio i arbed arian a thrafferth i chi. Drwy lwytho i lawr ein ap hawdd ei ddefnyddio, bydd ein bargeinion gorau ar flaenau eich bysedd. Gall X roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amseroedd eich taith, neu cadwch olwg ar ein statws llwybrau byw i sicrhau taith ddidrafferth.